Bwyd a Diod yn Y Beuno

Ein nod yn Y Beuno yw darparu'r bwyd lleol a thymhorol gorau. Mae'r rhan helaeth o'r ffrwythau a llysiau ffres a ddefnyddir wedi eu tyfu neu eu dal mewn llefydd y gellir eu gweld o'r Beuno: crancod, cimychiaid a physgod o Fae Caernarfon, wystrys a chregyn gleision o Afon Menai, cig eidion o wartheg duon Cymreig lleol, cig oen organig o'r llethrau cyfagos, a chig carw, cawsiau a mêl lleol.

Rydym yn cynhyrchu ein selsig a byrgyrs ein hunain yn ogystal â phobi bara ffres bob dydd. Mae hyd yn oed bwydydd y plant i gyd (chicken nuggets, fish fingers ac ati) wedi eu gwneud yng nhegin Y Beuno. Ar hyn o bryd rydym yn datblygu gardd ein hunain er mwyn sicrhau ein bod yn cael o leiaf rhywfaint o lysiau, perlysiau a ffrwythau cartref.

• Croeso i blant! Mae gennym ddigon o gadeiriau uchel a digonedd o le tu allan iddynt redeg a chwarae.
• Mae'n hawdd dod â chadair olwyn i'r bar a'r 'stafelloedd bytwa a'r lle chwech.
• Digon o le parcio
• Does unlle gwell i wylio'r machlud dros Fae Caernarfon tra'n sipian gwydriad o win nac wrth ein byrddau tu allan.

Diodydd

Mae gan Y Beun ddewis da o'r cwrw arferol yn ogystal â sawl Cymreig. Hefyd mae yma bob math o wirodydd a rhestr win eang ac o safon.
Rhestr Winoedd

Oriau agor

Gweinir bwyd amser cinio o 12:00 i 2:30yp o ddydd Llun i ddydd Iau a thrwy'r dydd ar ddyddiau Gwener a Sadwrn. Gyda'r nos o 6.30yh hyd 9.00yh o Nos Lun i Nos Sul

Yn ystod yr haf gweinir bwyd o amser brecwast am 8 y bore hyd 9 y nos.

Prydau arbennig

Mae prydau bwyd y bar a'r 'stafell fwyta, amser cinio a gyda'r nos yn cael eu paratoi'n y fan a'r lle. Mae Christian, ein cogydd o Ffrainc, wedi ennill Gwobr Aur Ewrop am ei 'terrines' ond mae'n arbenigo mewn prydau pysgod a phwdinau.

Gweinir cwrw Cymreig a gwinoedd da yn ogystal â dewis eang o wirodydd a diodydd ysgafn yn ein bar sydd ag awyrgylch cartrefol braf.

Bwydlen Amser Cinio
Bwydlen Gyda'r Nos

Rhag i chi gael siom rydym yn awgrymu eich bod yn archebu bwrdd o flaen llaw.