English
Cymraeg
Login

 
 
main1
   



PDF Print E-mail

Croeso i'r Beuno

.Croeso i wefan ‘Y Beuno’s lle, gobeithio y dewch o hyd i'r holl wybodaeth sydd ei angen arnoch am y gwesty. Os nad felly, eidiwch ag oedi cyn cysylltu â ni'n uniongrychol ar 01286 660785 – byddwn wastad yn falch o fod o gymorth.

Hen westy'r goets fawr yw'r Beuno gyda rhannau o'rdafarn yn dyddio'n ôl cyn belled â'r unfed ganrif ar bymtheg. Mae sawl ychwanegiad wedi ei wneud i'r adeilad dros y canrifoedd gyda'r rhan fwyaf o'r ystafelloedd gwely yn mynd yn ôl i 1912. Mae enw'r gwesty hefyd wedi newid gydag amser ond bellach mae'r perchnogion presennol yn defnyddio'r enw a ddefnyddir yn lleol sef Y Beuno!

Erbyn heddiw saif Clynnog Fawr a'r Beuno mewn lle gwych ar gyfer pob math o weithgareddau o gerdded a dringo'r mynyddoedd i'r arfordir gyda chyfleoedd golffio a physgota.. Mae ein staff yn fodlon iawn rhoi gair o gyngor pa gyfeiriad bynnag y cymerwch.

Ac ar ôl diwrnod caled (neu ddim mor galed â hynny) yn crwydro'r ardal a'i gweithgareddau gall ein gwesteion fwynhau gwydriad o win, peint o gwrw lleol neu bryd o fwyd cartref tra'n edmygu harddwch godidog y machlud dros Fôr Iwerddon.

Rydym yn gibeithio y mwynhewch eich arhosiad gyda ni a gwnawn ein gorau i neud hwnnw mor gyfforddus ag y gallwn.

Yr ardal leol

Mae'r ardal gyfagos yn gyforiog o hanes a chwedloniaeth, wedi ei amgylchunu gan olygfeydd rhyfeddol. Mae'n gyfoethog iawn o safbwynt diwylliant a threftadaeth naturiol a diwydiannol. Saif pentref Clynnogfawr ei hun ar ben gogleddol dyffryn sy'n cysylltu wrfordir gogleddol a deheuol Penrhyn Llyn, lle ceir traethau bendigedig a llu o weithgareddau dwr.
Eryri
Saif Y Beuno ar yr arfordir lle mae Dyffryn Nantlle'n cwrdd â'r môr. O bobtu'r dyffryn mae mynyddoedd garw a hardd Crib Nantlle sy'n ymestyn o Eryri i fynyddoedd Yr Eifl sy'n codi'n fawreddog o ddyfroedd Bae Caernarfon. Ar ddyddiau clir gellir gweld mynyddoedd Wiclo yn Iwerddon.

 
01286 660785

Y Beuno . Clynnogfawr . Gwynedd . LL54 5PB ....croeso@ybeuno.com