Aros yn Y Beuno
Wedi ei hadnewyddu gyda gofal a chwaeth, gyda'ch mwynhad chi mewn golwg, mae'r Beuno'n cynnig llety mewn 7 ystafell gyfforddus yn yr hen Adeliad Gofrestredig Gradd II.

Mae'r ardal o amgylch y gwesty'n frith o hanesion a chwedlau yn mynd yn ôl i gyfnod y Celtiaid ac mae enwau'r 'stafelloedd i gyd yn deillio o chwedl neu nodwedd leol, pob un gyda'i hanes unigryw ei hun. Gellir gweld y môr o bump o'r 'stafelloedd gyda dwy stafell yn edrych dros yr ardd a mynyddoedd Gyrn Goch a Gyrn Ddu a roes eu henwau iddynt.
Mae cymeriad unigryw i bob un 'stafell ac mae gan bob un gyfleusterau en-suite. Yn y 'stafelloedd gradd uwch mae cawodydd y gellir cerdded i mewn iddynt.
Oriel Luniau
Tariff Satfelloedd
Cyfleusterau
Ym mhob 'stafell mae Teledu, DVD, rheolydd gwres canolog, cyfleusterau gwneud te a choffi, bisgedi cartref, potel ddwr poeth am ddim, papur newydd boreol, dwr potel am ddim, a deunydd 'molchi moethus. Rydym yn croesawu plant ac mae gennym sawl crud symudol a gallwn roi gwlâu ychwanegol mewn 'stafelloedd dim ond i chi ofyn.
Gyrn Goch – Twin/Gweld yr ardd
Gyrn Ddu - Dwbl/Gweld yr ardd
Arianrhod – Dwbl Mawr/Gweld y môr
Branwen – Twin/ Dwbl Mawr/
Gweld y môr
Blodeuwedd – Dwbl Mawr/Gweld y môr
Enlli – Dwbl Gradd Uwch/Gweld y môr
Llanddwyn – 'Four Poster'/Gweld y môr
